Rhif y ddeiseb: P-06-1227 Teitl y ddeiseb: Mae angen uned iechyd meddwl arbenigol i famau a babanod yng Ngogledd Cymru Testun y ddeiseb: Mae angen uned mamau a babanod yng Ngogledd Cymru fel nad oes yn rhaid i deuluoedd deithio i Loegr, ac mae angen i'r gwasanaeth hwn fod ar gael yn Gymraeg. Mae hwn yn wasanaeth iechyd meddwl hanfodol sy’n angenrheidiol ar gyfer Gogledd Cymru. |
Mae’r cyfnod amenedigol yn dechrau ar ddechrau’r beichiogrwydd ac mae’n para tan ddiwedd y flwyddyn gyntaf ar ôl i'r baban gael ei eni. Mae iechyd meddwl amenedigol yn ymwneud ag iechyd a lles seicolegol ac emosiynol merched beichiog a'u plant, eu partneriaid a'u teuluoedd. Mae mwy o berygl i ferched gael problemau iechyd meddwl pan fyddant yn feichiog neu ar ôl iddynt roi genedigaeth.
Diffinnir problemau iechyd meddwl amenedigol yn ôl sbectrwm o faterion iechyd meddwl, gan gynnwys gorbryder, iselder ac anhwylderau seicotig ôl-enedigol sy'n dechrau yn ystod beichiogrwydd neu'r flwyddyn gyntaf ar ôl genedigaeth baban.
Er bod triniaeth yr un mor effeithiol i ferched yn y cyfnod amenedigol ag ydyw ar adegau eraill, mae afiechyd meddwl amenedigol yn gysylltiedig ag angen cynyddol i ddarparu gofal yn brydlon ac yn effeithiol. Y rheswm dros hyn yw bod posibilrwydd i broblem iechyd meddwl sy’n codi yn ystod y cyfnod amenedigol effeithio nid yn unig ar y fam, ond gall hefyd effeithio’n barhaol ar y plentyn sy'n datblygu. Yn gysylltiedig â hyn, gall gwahanu’r fam a’r baban effeithio’n ddifrifol ar y berthynas rhwng y fam a’r baban a gall fod yn anodd dadwneud yr effeithiau hyn.
Mae unedau mamau a babanod yn wardiau seiciatrig arbenigol mewn ysbytai lle gall merched sydd â phroblemau iechyd meddwl amenedigol difrifol gael eu derbyn gyda'u babanod. Mae’r unedau hyn yn cynnig triniaeth a chymorth i ferched sydd â phroblemau iechyd meddwl amenedigol gan hefyd eu helpu i ddatblygu eu sgiliau fel rhieni a meithrin perthynas â’u babanod.
Cynhaliodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Bumed Senedd ymchwiliad i iechyd meddwl amenedigol yn 2017. Nod yr ymchwiliad oedd ystyried sut y mae gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yn cael eu darparu a sut y gallai Llywodraeth Cymru wella gwasanaethau i famau, babanod, tadau a theuluoedd.
Pan gynhaliwyd ymchwiliad y Pwyllgor, nid oedd yr un uned mamau a babanod yng Nghymru yn dilyn penderfyniad i gau uned yng Nghaerdydd gau yn 2013. Os oedd angen triniaeth mewn ysbyty ar ferched ar gyfer problemau iechyd meddwl amenedigol, byddent naill ai’n cael eu derbyn i wardiau iechyd meddwl acíwt heb eu babanod neu’n gorfod teithio i uned yn Lloegr.
Cyhoeddwyd adroddiad y Pwyllgor ar ei ymchwiliad fis Hydref 2017, ac roedd yn cynnwys y dystiolaeth a glywodd am yr angen i sefydlu uned mamau a babanod yng Nghymru ynghyd ag argymhellion a oedd yn cynnwys y canlynol:
Argymhelliad 6 Bod Llywodraeth Cymru, yn seiliedig ar y dystiolaeth a dderbyniwyd, yn sefydlu uned mamau a babanod yn ne Cymru, wedi’i chomisiynu a’i chyllido yn genedlaethol i ddarparu gwasanaethau Cymru gyfan, sydd â staff digonol o ran niferoedd a disgyblaethau, ac sy’n gweithredu fel canolfan ganolog o wybodaeth a dysgu seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru
Argymhelliad 7 Bod Llywodraeth Cymru, yng ngoleuni’r ffaith na fydd uned mamau a babanod sydd wedi’i lleoli yn ne Cymru o reidrwydd yn addas i famau a theuluoedd yng nghanolbarth a gogledd Cymru, yn ymgysylltu fel mater o frys â GIG Lloegr i drafod opsiynau ar gyfer creu canolfan yn y gogledd-ddwyrain a allai wasanaethu poblogaethau o boptu’r ffin. Dylai Llywodraeth Cymru roi mwy o sicrwydd mewn perthynas â gallu GIG Cymru i gomisiynu gwelyau mewn unedau mamau a babanod mewn canolfannau yn Lloegr lle pennir bod angen clinigol amdanynt.
Derbyniodd Llywodraeth Cymru y ddau argymhelliad.
Agorodd uned mamau a babanod dros dro yn Ysbyty Tonna ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ym mis Ebrill 2021.
Datblygiadau yn y ddarpariaeth i gleifion yng Ngogledd Cymru
Ar ôl cyhoeddi ei adroddiad, cafodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wybodaeth yn rheolaidd gan Lywodraeth Cymru am y cynnydd yn ymwneud â gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol.
Yn fwy diweddar, ar 7 Hydref 2021, cynhaliodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Chweched Senedd sesiwn graffu gyffredinol gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.
Yn ystod y cyfarfod, nododd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant fod gwaith yn parhau i fynd rhagddo mewn perthynas ag agor uned mamau a babanod ar gyfer Gogledd Cymru, a’i bod ‘wedi ymrwymo’n gryf’ i wneud hynny.
Yn dilyn y sesiwn graffu gyffredinol ar 7 Hydref, ysgrifennodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i ofyn am ragor o wybodaeth. Mewn perthynas ag agor Uned Mamau a Babanod yng Ngogledd Cymru, soniwyd yn y llythyr fod y Pwyllgor yn pryderu y byddai angen i ferched a babanod yng Ngogledd Cymru barhau i deithio’n bell i gael cymorth arbenigol fel cleifion mewnol. Mae’r Pwyllgor yn nodi’r datganiad gan y Dirprwy Weinidog sy’n dweud bod gwaith yn parhau i fynd rhagddo i sicrhau y bydd darpariaeth ar gael i famau sy’n byw yng Ngogledd Cymru a gofynnodd am ragor o fanylion am y posibiliadau a’r amserlen ar gyfer y gwaith.
Ymatebodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i lythyr y Pwyllgor ar 22 Tachwedd 2021. Yn ei llythyr, mae’r Dirprwy Weinidog yn egluro bod trafodaethau’n cael eu cynnal gyda GIG Lloegr i ddatblygu’r posibilrwydd o ddatblygu uned wyth gwely i famau a babanod ar y cyd er mwyn cynnig darpariaeth i ferched o ogledd Cymru. Mae’r sail resymegol dros sefydlu uned wyth gwely ar y cyd yn seiliedig ar waith modelu a wnaed gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC), sydd wedi’i ddiweddaru’n ddiweddar, ac i ddarparu gwasanaeth cynaliadwy i ferched yng Ngogledd Cymru. Dywedodd y Dirprwy Weinidog y byddai rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn a’r amserlen ar gyfer ei weithredu ar gael yn fuan.
Ysgrifennodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar 17 Rhagfyr 2021 yn gofyn am wybodaeth am wasanaethau iechyd meddwl amenedigol bob chwe mis yn rheolaidd.
Yn y llythyr at y Pwyllgor Deisebau dyddiedig 14 Rhagfyr 2021, mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod unedau mamau a babanod ar gael i ferched sy’n byw yng Ngogledd Cymru a’i bod wedi cael gwybodaeth am y datblygiadau’n rheolaidd. Roedd hefyd wedi cwrdd yn ddiweddar ag arweinwyr WHSSC i drafod y mater.
Mae’r llythyr yn egluro bod y gwaith modelu a wnaed yng Nghymru wedi dangos nad oes digon o alw am uned annibynnol yng Ngogledd Cymru. Mae Llywodraeth Cymru felly wedi bod yn gweithio ar y cyd â GIG Lloegr i ddatblygu uned ar y cyd yng Ngogledd-orllewin Lloegr a fydd yn hygyrch o ogledd Cymru. Dywedir bod 'ymgysylltu sylweddol' o hyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, WHSSC a GIG Lloegr ynghylch datblygu'r uned newydd hon.
Mae’r Dirprwy Weinidog yn mynd rhagddi i ddweud ei bod wedi gofyn i’r gwaith hwn gael ei ddatblygu ‘ar frys a chyflymder gwirioneddol’ ac y bydd yn parhau i gael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd. Mae’r Dirprwy Weinidog yn nodi ei bod wedi cynnig ei chefnogaeth i swyddogion sy’n cydweithio â GIG Lloegr er mwyn sicrhau bod modd bwrw ymlaen yn gyflym â hyn. Yn y llythyr hefyd, mae’n cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r darparwr i ddiwallu anghenion cleifion Cymraeg eu hiaith wrth ddatblygu’r uned.